top of page

Beth i'w ddisgwyl ar ddiwrnod arferol
-
Chwarae rhydd
-
Byrbrydau & phrydau bwyd
-
Mynd am dro yn y gymuned leol
-
Chwarae yn yr ardd
-
Chwarae blêr
-
Amser stori a chanu
-
Amser cylch
-
Newidiadau cewynnau
-
Chwarae rôl
-
Adeiladwaith
-
Gweithgareddau creadigol
-
Amser tawel & gorffwys

Maethiad a bwydlen
Yng Nghylch Meithrin Y Bont-faen, mae maethiad yn rhan allweddol o’n gofal. Mae'r holl brydau'n cael eu paratoi'n ffres ar y safle, a mae ein bwydlen ddyddiol wedi'i dylunio'n ofalus i sicrhau bod y plant yn cael y maetholion cywir sydd eu hangen i dyfu, chwarae a dysgu.
*Rydym yn darparu ar gyfer pob alergedd a dewis
*Gofynnwn yn garedig i rieni/gwarcheidwaid ddarparu bocsys bwyd.

bottom of page